March 12, 2009

Abertawe yn dweud “Ie” i bwerau deddfu.

Mewn cyfarfod cyhoeddus poblogaidd a gynhaliwyd gan Gonfensiwn Cymru Gyfan yn Theatr y Grand, Abertawe, neithiwr, cafodd ymrwymiad ail ddinas Cymru i Ddatganoli ei gadarnhau o’r newydd. Ond cododd cwestiynau difrifol hefyd am natur y pwerau a gaiff eu cynnig. O’r ddwy awr ddwys o drafodaeth, daeth anniddigrwydd i’r amlwg ynghylch y pecyn sy’n cael ei gynnig – mae llawer o bobl yn teimlo nad yw’n ddigonol.

Yn wir, y consensws cyffredinol ymhlith aelodau’r gynulleidfa yw y dylem gael pwerau tebyg i’r Alban. Roedd yr archwaeth am Ddatganoli cryfach yn amlwg a diamwys; canlyniad pleidlais a gafwyd ar ddiwedd y sesiwn, gyda thros 100 yn bresennol, oedd 80% o blaid mwy o bwerau, ac 20% o blaid glynu wrth y drefn bresennol.

Ac nid teimlad a geir ymysg y cyhoedd yn gyffredinol yn unig yw hyn. Yr un yw’r farn ar draws pleidiau gwleidyddol a sefydliadau’r gymdeithas sifil. Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gan Cymru Gyntaf yr wythnos ddiwethaf, roedd y siaradwyr yn gytun mai’r hyn sydd ei angen arnom yw gweithredu argymhellion Comisiwn Richard – argymhellion a daflwyd i’r neilltu er mwyn cuddio’r craciau yn y Blaid Lafur.

Wrth i gefnogaeth ehangach dros bwerau deddfu barhau i dyfu, mae Llafur mewn perygl o fod wedi’i hynysu ac o golli cysylltiad â’r cyhoedd yng Nghymru ar y mater hwn...


Swansea says “Yes” to lawmaking powers.

A well attended public meeting held in Swansea’s Grand Theatre by the All Wales Convention last night reaffirmed the commitment of Wales’ second city to Devolution. But it also raised serious questions about the nature of the powers on offer. Two hours of serious, in depth debate and discussion revealed a strong thread of discontent with the package on offer - many people feel that it just isn’t enough.

If anything, the general consensus amongst members of the audience was that we should have Scottish style powers. The general appetite for stronger Devolution was clear and unambiguous: a vote held at the end of the session attended by over 100 people showed 80% in favour of more powers, and 20% for the status quo.

And this isn’t just a sentiment that’s widely held amongst the general public either. It’s also held across political parties and civil society organisations. A strong consensus amongst speakers at a public meeting held by Wales First last week was that what we need are implementation of the Richard Commission’s recommendations – recommendations kicked into touch to paper over the cracks in the Labour Party.

As wider support for law-making powers continues to acquire momentum, Labour runs the risk of looking increasing isolated and out of touch with the Welsh public on this issue...

No comments: